Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Mawrth 2024
Amser:
09.30 -
10.33
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau, Comisiwn y Senedd Nicholas Morgan, Comisiwn y Senedd Andrew Gibson, Avison Young |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fae Caerdydd 2032 gan Gomisiwn y Senedd.
3.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y gwaith Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2023-24 a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.
4.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Oblygiadau Ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru), a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.
5.1 Trafododd y Pwyllgor nodyn y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 a chytunwyd ar beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.